Un o’r themâu parhaus ym marchnad y sector cyhoeddus heddiw yw’r angen i sicrhau gwell gwerth am arian drwy gaffael ‘mwy clyfar’. Mae Procurex Cymru 2020 wedi’i ddylunio’n benodol i helpu cymunedau prynwyr a chyflenwyr i ateb heriau effeithlonrwydd heddiw a’r dyfodol, yn ogystal â gwella sgiliau a galluoedd yn gyffredinol.
Bydd y digwyddiad yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth yr holl bersonél sy’n rhan o’r broses caffael cyhoeddus ynghylch y datblygiadau a’r mentrau sy’n mynd rhagddynt nawr a’r rhai sydd yn yr arfaeth, a’r newidiadau mewn deddfwriaeth sy’n digwydd yn y farchnad hon sy’n datblygu.
Byddwch yn dysgu sut mae gwneud arbedion drwy hyfforddi, cydweithio a gweithio gyda chyflenwyr clyfar ac effeithlon.
Un diwrnod, un lle, sawl cyfle:
Hwn yw digwyddiad pwysicaf y flwyddyn i unrhyw un sy’n rhan o’r maes caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ymunwch â chymuned gaffael Cymru yn Procurex Cymru 2019 i wneud yn siŵr nad ydych yn colli’r cyfle unigryw hwn i ddatblygu eich gyrfa ac i ddatblygu’n bersonol. Archebwch eich lle heddiw.