Gwobrau Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus yng Nghymru – Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) 2019/2020 yn prysur agosáu.
Cynhelir Gwobrau GO Cymru 2019/20 yng Ngwesty’r Mercure yng Nghaerdydd ar 18 Mawrth 2020, noson Procurex Cymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflawniadau’r rheini sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i economi Cymru.
Boed chi’n gyflenwr neu’n brynwr i’r sector cyhoeddus, mae’r Gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu rhagoriaeth ym maes caffael, i gael cipolwg ar yr arferion gorau ac i gwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes caffael yng nghyfle rhwydweithio’r flwyddyn. Gwobrau GO Cymru yw uchafbwynt mawreddog Gŵyl Gaffael Cymru a byddant yn gweld dros 300 o gynadleddwyr o gymuned caffael cyhoeddus Cymru’n mynd benben i ennill Gwobr GO uchel ei bri.
Mae noddi Gwobrau GO Cymru’n sicrhau bod eich brand yn cael ei hyrwyddo’n helaeth, yn sicrhau enillion gwych ar fuddsoddiad, ac yn darparu llwyfan rhwydweithio ardderchog gyda chyfle prin i ymgysylltu’n uniongyrchol ag arweinwyr ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. Uchafbwynt y nawdd yw Cinio tei du mawreddog y Gwobrau yng Ngwesty’r Mercure, Caerdydd ar 18 Mawrth 2020.
Ffoniwch ni heddiw i drafod y cyfleoedd i noddi sy’n dal ar gael yng Ngwobrau GO Cymru – 0845 270 7066