Cewch glywed gan arbenigwyr blaenllaw a fydd yn trafod y polisïau diweddaraf sy’n effeithio ar rolau prynu yn y sector cyhoeddus.
Cafodd Rebecca Evans ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2011, i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, daeth hi’n Aelod Cynulliad ar gyfer Gŵyr.
Cafodd Rebecca radd mewn Hanes o Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol o Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn cael ei hethol, bu Rebecca’n gweithio yn y trydydd sector.
Mae Rebecca wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Datblygu Cynaliadwy a’r Amgylchedd a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018, ymunodd â’r Cabinet fel y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
Lee Waters yw Aelod y Cynulliad dros etholaeth Llanelli. Cafodd ei eni a’i fagu yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg ym Mrynaman a Rhydaman a chafodd radd mewn gwleidyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth.
Mae ei ddiddordebau ym myd gwleidyddiaeth yn amrywiol, gan gynnwys yr economi, newid yn yr hinsawdd, darpariaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, polisi digidol a’r cyfryngau.
Mae Lee yn aelod Llafur Cymru ac yn Aelod Cydweithredol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth Llanelli. Cyn iddo gael ei ethol ym mis Mai 2016, Lee oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig – prif felin drafod annibynnol Cymru. Cyn hynny roedd yn rhedeg yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans Cymru, a bu’n gyfrifol am arwain yr ymgyrch ar gyfer y Ddeddf Teithio Llesol. Mae’n gyn Brif Ohebydd Gwleidyddol !TV Wales.
Ar 13 Rhagfyr 2018 cafodd ei benodi’n Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.