Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn sefydliad pwrpasol sy’n cefnogi cyrff statudol GIG Cymru drwy ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau a swyddogaethau cefnogi, sydd o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid, a hynny ar ben darparu cyngor a chymorth proffesiynol i Lywodraeth Cymru.
Eleni, rydym yn falch o gael cynnal cyfres o sesiynau gweithdy ym Mharth Academi GIG Cymru yn Procurex Cymru. Mae’r sesiynau’n cynnwys:
Datblygiadau Cynaliadwy yn GIG Cymru
Cydweithio Traws-sector yn y Gwasanaethau Trafnidiaeth
Hybu Arloesi a Thwf Economaidd yng Nghymru
Cydweithio Traws-sector ym maes Comisiynu, a Gwella Profiad y Claf
Arloesedd ym maes Darparu Gwasanaeth Trafnidiaeth
Caffael yn Seiliedig ar Werthoedd yn GIG Cymru