Efallai nad oes gennych chi fawr o brofiad o wneud cynnig, neu efallai bod gennych chi lawer, serch hynny, faint ydych chi’n ei ddeall mewn gwirionedd am y broses a’r hyn mae’r prynwr yn chwilio amdano?
Ydych chi’n gwybod bod y sector cyhoeddus yn symud tuag at gostio cylch bywyd a sicrhau bod y fanyleb yn ystyried materion, ar wahân i bris yn unig? Ydych chi’n gallu dehongli manyleb i ganfod beth yn union mae’r prynwr yn chwilio amdano, neu ydych chi’n treulio llawer o amser yn ymateb ond heb fod yn llwyddiannus?
Bydd y sesiynau yn y Parth Cymorth Cynigion yn edrych ar faterion allweddol gan gynnwys Yr Hyn Mae’r Prynwr yn Chwilio Amdano mewn Gwirionedd, Awgrymiadau ar gyfer Gwella eich Cynnig ac Eich Hawliau ar Stop.