Mae gwerthuso yn rhan greiddiol o gaffael, serch hynny, dydy’r Rheoliadau ddim yn cynnig fawr o arweiniad ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni’r rôl hon. Mae llawer o agweddau mae’n rhaid eu hystyried wrth ymgymryd â’r broses hon, o ddatblygu strategaeth i greu matrics gwerthuso.
Mae hefyd yn bwysig ystyried strwythur y broses a’r model gwerthuso rydych chi’n bwriadu’i ddewis, oherwydd gall camgymeriadau yn ystod y cam hwn arwain at wneud y penderfyniadau anghywir.
Bydd y parth hwn yn edrych ar nifer o destunau sy’n ymwneud â gwerthuso, gan gynnwys Datblygu Matrics, Gwerthuso yn ystod y Cam Dewis a Modelau Gwerthuso Amgen.