Yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol cael y fanyleb yn gywir o’r cychwyn cyntaf. Does dim modd i newid ddigwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, oni chynllunnir ar ei gyfer, sy’n golygu ei bod hi’n hanfodol deall y farchnad. Mae’r sesiynau hyn yn edrych ar rai materion pwysig sy’n effeithio ar eich manylebau.
Sicrhau bod eich manyleb mor gywir ag y gall fod ac yn cyd-fynd â’r canlyniadau angenrheidiol yw’r canlyniad a ddymunir, ond yn aml iawn mae manylebau’n cael eu copïo o gontractau blaenorol, ac nid ydynt yn cael eu diweddaru ar gyfer newidiadau mewn technoleg neu lefelau gwasanaeth, ac mae awdurdodau’n cael yr un peth yn union ag o’r blaen.
Bydd y parth hwn yn edrych ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys Ymgysylltu â’r Farchnad, Llunio’r Fanyleb a Chynllunio ar gyfer Newid, ac mae’n cynnig awgrymiadau a syniadau i helpu’r mynychwyr ddatblygu canlyniadau gwell.