Mae Procurex Cymru yn rhoi cyfle i’ch cwmni ymgysylltu â phrynwyr a dylanwadwyr o ran o’r farchnad sy’n werth £6 biliwn.
Procurex Cymru yw’r cyfle gorau un i ymgysylltu â phrynwyr yn y sector hwn sy’n prysur dyfu, ac mae’n gyfle i chi gyflwyno eich cynnyrch a’ch atebion a thyfu eich cyfran o’r farchnad.
Cysylltwch â’n tîm heddiw i drafod eich anghenion. Anfonwch e-bost i exhibitions@bipsolutions.com neu roi galwad i ni ar 0845 270 7066*.
Bydd eich atebion busnes clyfar ac arloesol sy’n arbed costau, wedi’u cyflwyno’n effeithiol i’r gynulleidfa brynu gywir, yn eich helpu i wneud argraff gadarnhaol a thyfu eich cyfran o’r farchnad sector cyhoeddus fuddiol hon. Mae ennill contractau newydd yn y sector cyhoeddus yn sicrhau incwm rheolaidd i’ch cwmni ac yn helpu i sbarduno twf busnes cynaliadwy.
Gallwch chi hyrwyddo eich brand, hysbysu eich busnes i’r rheini sy’n bwysig, meithrin perthnasoedd gwerthfawr â phrynwyr, ac ennill dealltwriaeth o’r farchnad sy’n arwain at fantais gystadleuol barhaol.
I gyd mewn un diwrnod, mewn un lle: Procurex Cymru 2020
Bydd noddi digwyddiad Procurex Cymru yn cynnig manteision a buddion sylweddol i’ch sefydliad, gan gysoni eich brand â Llywodraeth Cymru ac NWSSP a sicrhau bod eich brand yn cael yr effaith fwyaf bosib drwy’r dulliau canlynol:
(Yn ymgorffori Procurex Cymru a Gwobrau GO Cymru 2019)